Gan ddefnyddio'r dull deall gwerth cymdeithasol , mae鈥檙 Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn cynnig cefnogaeth, cyngor, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i sefydliadau fesur a rhoi gwybod am y newidiadau cadarnhaol y maent yn eu creu ar gyfer pobl a鈥檙 amgylchedd.. Caiff ei gyd-gyfarwyddo gan Dr Ned Hartfiel &苍产蝉辫;补鈥檙 Athro Rhiannon Tudor Edwards gan ddefnyddio arbenigedd rhwydwaith ehangach o gydweithwyr a bwrdd ymgynghorol.
Gall y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol roi fframwaith i sefydliadau ar gyfer mesur newid mewn ffyrdd sy鈥檔 berthnasol i randdeiliaid. Gan ddefnyddio dulliau ansoddol, meintiol ac ariannol, rydym yn cynhyrchu dadansoddiad o werth cymdeithasol cadarn sy'n cyflwyno sut caiff newid ei greu ar gyfer y bobl sy'n cael profiad o weithgareddau a rhaglenni sefydliad. Trwy fesur a rhoi gwerth ariannol ar ganlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sefydliad, gallwn gyfrifo cymhareb gwerth cymdeithasol gan gymharu buddion a chostau. Mae cymhareb cost-budd o 3:1, er enghraifft, yn dangos bod buddsoddiad o 拢1 yn creu 拢3 o werth cymdeithasol.
Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus a鈥檙 trydydd sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG a鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.
I gael gwybod sut gall y Ganolfan fod o fudd i鈥檆h sefydliad;
Mesur Gwerth Cymdeithasol
Mae Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus 2012 (y cyfeirir ati鈥檔 fwy cyffredin fel y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol) yn ei gwneud yn ofynnol i 鈥渁wdurdodau cyhoeddus roi sylw i lesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn cysylltiad 芒 chontractau gwasanaethau cyhoeddus鈥. Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol 2015 yn galw ar y rhai sy鈥檔 gyfrifol am wneud penderfyniadau cyhoeddus i roi pobl a鈥檜 llesiant yn ganolog i鈥檙 hyn a wn芒nt.
Mae ein dull o weithredu gwerth cymdeithasol yn cynnwys gweithio gyda chi a'ch rhanddeiliaid i ddeall beth sydd wedi newid ac i werthfawrogi'r newidiadau hynny. Rydym yn dilyn proses chwe cham o ddadansoddiad adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad sy鈥檔 ein galluogi i gymharu鈥檙 buddion a gynhyrchir 芒鈥檙 costau cymharol o鈥檜 creu.
Rhanddeiliaid yw'r rhai sy'n profi newid o ganlyniad i'ch gweithgaredd neu raglen. Unwaith y bydd wedi'i nodi, rydym yn ymgynghori 芒 rhanddeiliaid drwy gydol y broses gwerth cymdeithasol i sicrhau bod y gymhareb gwerth cymdeithasol yn seiliedig ar wybodaeth gan y rhai sy'n profi eich gweithgaredd neu raglen
Mae'r ddamcaniaeth newid yn nodi'r newidiadau disgwyliedig a brofir gan gyfranogwyr ac yn dangos y cysylltiadau rhwng y mewnbynnau, allbynnau, canlyniadau ac effaith.
Newidiadau yw canlyniadau eich gweithgaredd neu raglen. Rydym yn mesur y newidiadau hyn gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol priodol i ddarparu tystiolaeth bod newid sylweddol wedi digwydd. Gall newidiadau fod yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn fwriadol ac yn anfwriadol.
Yna rydym yn rhoi gwerth ar eich prif ganlyniadau drwy gymhwyso prisiad llesiant gan ddefnyddio鈥檙 dull deall gwerth cymdeithasol HACT, sy鈥檔 rhoi gwerth ariannol ar ganlyniadau megis hyder uchel neu les meddyliol, sy鈥檔 aml yn cael eu hallg谩u o farchnadoedd.
Rydym hefyd yn mesur costau cynnal eich gweithgaredd neu raglen. Mae categor茂au yn aml yn cynnwys costau staff, costau offer, costau gweinyddol a chostau cyffredinol.
Trwy gymharu'r gwerth cymdeithasol cyfartalog fesul cyfranogwr gyda chost gyfartalog y cyfranogwr, gallwn gyfrifo cymhareb adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad.
Adroddiadau a Cyhoeddiadau
- Adroddiad SROI Rhaglen Codi鈥檙 To
- Adroddiad SROI i鈥檙.
- Adroddiad SROI Lifestyle Coaching.
- Adroddiad
- Adroddiad SROI Coed Lleol-Small Woods鈥 Rhaglen Llesiant Coedwig (Actif Woods Wales) [yn y wasg]
- Kodchawan, D.; Hartfiel, N.; Gladman, J.; Harwood, R.; & Edwards, R.T. (2024). RCT-based Social Return on Investment (SROI) of a Home Exercise Program for People With Early Dementia Comparing In-Person and Blended Delivery Before and During the COVID-19 Pandemic. INQUIRY: The Journal of Health Care Organization, Provision, and Financing. Vol. 61.
- Skinner, A.; Hartfiel, N.; Lynch, M.; Jones, A.W.; Edwards, R.T. (2023) Social Return on Investment of Social Prescribing via a Diabetes Technician for Preventing Type 2 Diabetes Progression. Int. J. Environ. Res. Public Health, 20, 6074.
- Makanjuola, A., Lynch, M., Hartfiel, N., Cuthbert, A., Edwards, R.T. (2023). Prevention of Poor Physical and Mental Health through the Green Social Prescribing Opening Doors to the Outdoors Programme: A Social Return on Investment Analysis. Int. J. Environ. Res. Public Health, 20, 6111.
- Hartfiel, N., Gladman, J., Harwood, R., & Tudor Edwards, R. (2022). Social Return on Investment of Home Exercise and Community Referral for People With Early Dementia. Gerontology & geriatric medicine, 8, 23337214221106839.
- Makanjuola, A., Lynch, M., Hartfiel, N., Cuthbert, A., Wheeler, H.T., Edwards, R.T. (2022). A Social Return on Investment Evaluation of the Pilot Social Prescribing Emotion Mind Dynamic Coaching Programme to Improve Mental Wellbeing and Self-Confidence. Int. J. Environ. Res. Public Health, 19, 10658.
- Jones, C., Hartfiel, N., Brocklehurst, P., Lynch, M., Edwards, R. (2020). Social Return on Investment Analysis of the Health Precinct Community Hub for Chronic Conditions. International Journal of Environmental Research and Public Health, 17, 5249;
- Jones, C., Windle, G. and Edwards, R.T. (2020). Dementia and Imagination: A Social Return on Investment Analysis Framework for Art Activities for People Living With Dementia, The Gerontologist,60(1), 112鈥123.