Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol wedi ei fwriadu i bobl sy’n dymuno arbenigo mewn cymwysiadau ymarferol o ddadansoddi ymddygiad. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu ymarfer effeithiol, tosturiol sy'n seiliedig ar werthoedd. Mae dadansoddwyr ymddygiad yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau amlddisgyblaethol ochr yn ochr ag athrawon, seicolegwyr, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill i gynorthwyo unigolion a sefydliadau i gyflawni eu nodau a gwella ansawdd eu bywyd.
Pwyslais y cwrs yw sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau i ddatblygu ymarfer gwyddor ymddygiad cymwys a moesegol. Bydd myfyrwyr yn ystyried sut y gall dealltwriaeth o ymddygiad rymuso pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau.
Mae dadansoddi ymddygiad yn y Deyrnas Unedig yn faes sy'n tyfu gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol. Mae gweithwyr proffesiynol yn cael eu goruchwylio gan Gymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y Deyrnas Unedig (.) Mae cofrestr gweithwyr proffesiynol UK-SBA wedi ei hachredu dan raglen cofrestr achrededig yr . Rydym yn cymeradwyo ac yn cadw at a yr UK-SBA.
Mae'r radd meistr hon mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor yn darparu'r gwaith cwrs ôl-radd sy'n angenrheidiol i fyfyrwyr wneud cais i fod yn ddadansoddwyr ymddygiad ardystiedig yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr am y UKBA(cert) gwblhau safonau goruchwylio a chymhwysedd yr UK-SBA.
Noder nad yw'r cwrs yn paratoi myfyrwyr i sefyll arholiad gyda'r BACB. O 2026 ymlaen, dim ond ymgeiswyr yn UDA a rhai rhannau o Ganada fydd yn cael eu hardystio gan y BACB.
Mae'r rhaglen hon yn arwain at radd Meistr. Gall myfyrwyr sy'n dymuno gwneud hynny adael y rhaglen ar ôl ennill Tystysgrif Ôl-radd (60 credyd) neu Ddiploma Ôl-radd (120 credyd) os nad ydynt yn dymuno parhau â'r cwrs MSc llawn.
Addysgir y cwrs mewn darlithoedd yn y cnawd ar gampws Bangor. Bydd myfyrwyr yn mynd i ddosbarthiadau am hyd at 9 awr yr wythnos yn ystod y tymor. Mae'r cwrs llawn amser yn ddwys ac mae wedi ei fwriadu i’r rhai sy'n dymuno neilltuo'r rhan fwyaf o'u hamser i'w hastudiaethau. Mae'r cwrs yn pwysleisio cymwysiadau ymarferol, damcaniaeth ddadansoddol ymddygiad uwch a datblygiadau cyfredol mewn ymchwil.
Byddwn yn cynnig nifer gyfyngedig o leoliadau di-dâl i fyfyrwyr llawn amser. Bydd y lleoliadau hyn yn cael eu dyrannu yn dilyn cyfweliad ac ar ôl un semester o astudio. Mae gennym leoliadau ar gael mewn ysgolion yng ngogledd Cymru ac yng Nghaer. Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru i wneud y profiad dysgu ymarferol yn derbyn goruchwyliaeth sy’n seiliedig ar Fframwaith Cymhwysedd UKBA(cert). Bydd cyfle gan fyfyrwyr ar y profiad dysgu ymarferol i gwblhau astudiaethau achos clinigol yn lle project ymchwil i gyflawni gofynion eu traethawd hir. I fod yn gymwys i gofrestru ar y profiad dysgu ymarferol, rhaid i fyfyrwyr fod yn aelodau ymarferol o'r UK-SBA.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn cynnwys dwy ran.
Mae Rhan Un (120 credyd) yn cynnwys modiwlau hyfforddedig sy'n cyflwyno theori ac ymarfer sylfaenol y maes ochr yn ochr â dadansoddiad mwy manwl o weithdrefnau cymhwysol ac ymchwil. Gall y modiwlau gynnwys:
- Cyflwyniad i Weithdrefnau Newid Ymddygiad
- Egwyddorion Sylfaenol mewn Gwyddor Ymddygiad
- Cymwysiadau Dadansoddi Ymddygiad
- Gweithdrefnau Newid Ymddygiad Uwch
- Asesu mewn Gwyddor Ymddygiad
- Dulliau Ymchwil mewn Gwyddor Ymddygiad
Mae Rhan Dau (60 credyd) yn cynnwys traethawd hir neu brofiad dysgu ymarferol*.
*Mae'r profiad dysgu ymarferol i fyfyrwyr sy'n ymarfer fel dadansoddwyr ymddygiad. Rhaid i fyfyrwyr sy'n dewis y profiad dysgu ymarferol weithio fel dadansoddwr ymddygiad am o leiaf 15 awr yr wythnos. Rhaid i'r lleoliad gael ei oruchwylio gan rywun sy’n meddu ar dystysgrif UKBA a all ddarparu goruchwyliaeth ar y safle. Gall y myfyrwyr drefnu lleoliadau gyda chytundeb ymlaen llaw gan arweinydd y cwrs. Bydd rhaid cael contract wedi ei gytuno a’i lofnodi gyda Phrifysgol Bangor cyn cymeradwyo'r lleoliad.
Cofiwch y gall y modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, ac mai canllaw yn unig yw’r uchod.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r isod:
- Darlithoedd
- Hunan-astudio
- Seminarau
- Gwaith grŵp
- Goruchwylio traethawd hir
- Lleoliadau clinigol*
*Ar gael i fyfyrwyr llawn amser yn unig. Nifer cyfyngedig o leoliadau di-dâl ar gael.
Bydd yr asesu’n cynnwys cymysgedd o’r canlynol:
- Arholiadau
- Cyflwyniadau
- Adroddiadau achos
- Traethodau
- Traethawd hir ymchwil
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth yma a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(ii) neu gyfwerth o leiaf. Gall ymgeiswyr hŷn (25+ ar ddechrau'r cwrs) heb radd ond sydd â phrofiad perthnasol hefyd gael mynediad i'r cwrs ar lefel tystysgrif. Gall profiad clinigol perthnasol gynnwys gwaith â thâl neu waith gwirfoddol mewn ysgolion, cartrefi gofal, gwasanaethau oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati a bydd cyfarwyddwr y cwrs yn ei adolygu fel y bo'n briodol. Ar ôl cwblhau'r cwrs tystysgrif yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr o'r fath yn gymwys i symud ymlaen i'r diploma a'r lefel meistr.
IELTS: Gofynnir am 6.5 (heb unrhyw elfen dan 6.0). Rhaid cyflwyno ceisiadau electronig i'r ysgol erbyn 1 Mai bob blwyddyn. Cysylltir ag ymgeiswyr posib sy'n bodloni'r holl feini prawf eraill i gael cyfweliad byr gyda chyfarwyddwr y cwrs. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal naill ai'n bersonol neu trwy gyfrwng telegynadledda. Cynigir lleoedd erbyn diwedd mis Mehefin.
Gyrfaoedd
Mae'r MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn rhedeg ers dros 20 mlynedd, ac mae gennym hanes cryf o helpu graddedigion i ddod o hyd i swydd â thâl.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ymarfer mewn addysg, gofal iechyd, cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol a rheoli trefniadaeth ac ymddygiad. Yn ystod y radd, bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil uwch ac yn ennill sgiliau ymarferol mewn cynllunio a dadansoddi ymchwil.
Mae pobl sy’n meddu ar dystysgrif UKBA yn aml yn gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Mae llawer o raddedigion yn gweithio yn y GIG, mewn ysgolion, neu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol preifat.