Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 MA mewn Treftadaeth Fyd-eang trwy Ddysgu o Bell yn archwilio ac yn cloriannu mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a gwarchod y dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol.
Mae astudio gradd meistr mewn Treftadaeth Fyd-eang yn rhoi'r sgiliau ymarferol ac academaidd angenrheidiol i fyfyrwyr gyflawni gofynion diwydiant treftadaeth heriol ac esblygol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am amrywiol faterion sy'n ganolog i鈥檙 trafodaethau cyfredol ynghylch diffiniad, amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth. Mae鈥檙 MA yn archwilio r么l treftadaeth yng nghymdeithasau鈥檙 gorffennol a chyfoes a natur luosog y dreftadaeth ddiwylliannol mewn cyd-destun byd-eang.
Yn yr MA mewn Treftadaeth Fyd-eang trwy ddysgu o bell, bydd y myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO - y broses enwebu a鈥檙 arysgrifiad, rheoli, a rhag-gynllunio. Mae pwyslais neilltuol ar dwristiaeth gynaliadwy - archwilio dulliau damcaniaethol ac ymarferol a'r angen i gynnwys cymunedau lleol yn eu treftadaeth hwythau.
Mae elfen gref o hyfforddiant yn y rhaglen er mwyn hybu鈥檙 rhagolygon am yrfa.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Craidd a Gorfodol:
Treftadaeth Ddiwylliannol: Safbwyntiau Beirniadol - Mae'r modiwl yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i鈥檙 myfyrwyr o ddulliau damcaniaethol o ymdrin 芒 threftadaeth ddiwylliannol a'u defnydd ymarferol. Mae'n cyflwyno鈥檙 dadleuon cyfredol ynghylch amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth, yn ddiriaethol ac yn anniriaethol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae pwyslais ar sut mae treftadaeth yn siapio hunaniaeth ac ar ymdrechion i ddemocrateiddio treftadaeth drwy gynnwys cymunedau lleol a grwpiau ymylol.
Treftadaeth y Byd: Amddiffyn, Rheoli a Chynaliadwyedd - Mae'r modiwl hwn yn edrych ar gysyniad treftadaeth y byd, hanes datblygiad trefniadol ac ymdrechion parhaus i ehangu cylch gorchwyl amddiffyn i gwmpasu鈥檙 amrywiaeth sydd o ran treftadaeth y byd. Mae鈥檔 gwerthuso鈥檔 feirniadol y prosesau a ddefnyddir i arysgrifio safleoedd ar Restr Treftadaeth y Byd. Mae鈥檔 tynnu ar astudiaethau achos, mae鈥檔 rhoi dealltwriaeth fanwl o鈥檙 cymhlethdodau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chynnal a rheoli Safle Treftadaeth y Byd. Rhoddir sylw hefyd i dwristiaeth gynaliadwy trwy archwilio dulliau ymarferol a damcaniaethol, ac mae pwyslais neilltuol ar gefnogi econom茂au lleol.
Sgiliau Ymchwil - Modiwl sgiliau lefel uwch yw hwn sy'n darparu hyfforddiant ar gychwyn projectau ymchwil; mae鈥檔 dysgu myfyrwyr i feirniadu papurau seminar ymchwil; ac mae鈥檔 meithrin sgiliau i wella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae鈥檔 cyflwyno myfyrwyr i sgiliau amrywiol sy鈥檔 gysylltiedig ag ymchwil a dewisiadau gyrfa, gan gynnwys ysgrifennu i鈥檙 cyfryngau a llunwyr polisi, rheoli archifau, datblygu llwybrau treftadaeth, cyfweld at ddibenion hanes llafar, sgiliau Technoleg Gwybodaeth a setiau data, sgiliau addysgu, a hanes cyhoeddus.
Traethawd hir - Mae鈥檙 modiwl hwn yn rhoi鈥檙 sgiliau a鈥檙 adnoddau angenrheidiol i fyfyrwyr gynnal ymchwil annibynnol gan arwain at lunio traethawd ymchwil sy鈥檔 seiliedig ar bwnc sy鈥檔 ymwneud 芒 threftadaeth fyd-eang.
Gallai'r Modiwlau Dewisol gynnwys:
Ailddehongli'r Plasty - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio ac yn ystyried them芒u a chwestiynau mawr sy鈥檔 ymwneud 芒 hanes a dylanwad plastai ac ystadau Cymru, eu perchnogion, a鈥檙 cymunedau cysylltiedig. Yn y pen draw, mae'r modiwl yn gyfle i gymhwyso sgiliau ymchwil i arferion treftadaeth yn y byd go iawn, trwy ddylunio a datblygu cynnyrch hynod o ran dehongli treftadaeth sy'n cyfrannu'n weithredol at well gwybodaeth a dealltwriaeth.
Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a鈥檙 Gorffennol 2024-25 - Mae Cymru Fyd-eang yn edrych ar leoedd hollbwysig a siapiodd gysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a rhannau eraill o'r byd. Mae鈥檔 canolbwyntio ar fannau o bwys yng Nghymru ac astudiaethau achos o鈥檙 tu hwnt i鈥檞 ffiniau ac yn rhychwantu鈥檙 canoloesol a鈥檙 modern. Bob wythnos bydd y myfyrwyr yn archwilio astudiaeth achos o le gwahanol 鈥 fel Wcr谩in, America, Patagonia, India ac, yng Ngogledd Cymru, stadiwm p锚l-droed y Cae Ras, Wrecsam. Trafodir y lleoedd hynny yng nghyd-destun them芒u megis hunaniaeth, trefedigaethedd, hil, ymfudo, rhyw, treftadaeth a thrawswladoliaeth.
Lleoliad Gwaith yr MA - Mae'r modiwl yn cynnig profiad gwaith ar lefel MA a bydd yn rhoi amrywiol sgiliau a phrofiadau i鈥檙 myfyrwyr y gallant eu trosglwyddo i'r gweithle.
Damcaniaeth a Dehongli mewn Archaeoleg - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio fframweithiau damcaniaethol allweddol a dadleuon cyfoes ym maes archaeoleg. Bydd y myfyrwyr yn dysgu ymgysylltu 芒 darlleniadau beirniadol, yn datblygu eu safbwyntiau damcaniaethol eu hunain, ac yn gwella eu sgiliau ymchwil trwy drafodaethau cydweithredol.
Cofiwch y gall y modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, ac mai canllaw yn unig yw鈥檙 uchod.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o鈥檙 isod:
- Darlithoedd (ar-lein)
- Seminarau ar-lein:
- Gweithdai ar-lein:
- Podlediad
- Gweminarau
- Hunanastudio
- Goruchwyliaeth
Cafodd yr MA Treftadaeth Fyd-eang trwy Ddysgu o Bell ei ddatblygu i fod mor hyblyg 芒 phosibl. Caiff y modiwlau eu dysgu'n gydamserol ac yn anghydamserol. Caiff y myfyrwyr gyfle i ymgysylltu mewn amser real gyda'u tiwtoriaid a鈥檜 cyd-fyfyrwyr. Bydd holl elfennau addysgu'r cwrs ar gael hefyd yn anghydamserol ar ffurf darlithoedd, gweminarau, podlediadau a fforymau gr诺p ar-lein, a gaiff eu recordio. Mae'r dull cyflwyno鈥檔 galluogi鈥檙 myfyrwyr i astudio yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.
Bydd yr asesu鈥檔 cynnwys cymysgedd o鈥檙 canlynol:
- Traethodau
- Astudiaethau achos
- Gwerthusiadau beirniadol o arferion rheoli
- Cyflwyniadau
- Cynnig ymchwil:
- Adolygiad beirniadol
- Traethawd hir
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw鈥檙 wybodaeth yma a gallai newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii fel gradd israddedig neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Hanes, Treftadaeth, Archaeoleg, Astudiaethau Llenyddol, Astudiaethau Canoloesol/Llenyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithas, Astudiaethau Americanaidd, Y Gyfraith).
Bydd yr ymgeiswyr sy鈥檔 meddu ar gymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau oddi wrth weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried fesul achos. Cysylltwch 芒 ni am ragor o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sg么r IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5) neu gyfwerth.
Gwybodaeth Ychwanegol: Gofynion technegol ar gyfer astudio'r cwrs Dysgu o Bell
- Cyfrifiadur PC neu Mac, gwe gamera a chlustffonau. Bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron o dan 5 oed yn ddigon da.
- Mynediad at y rhyngrwyd 芒 chyflymder lleiaf o 2Mbit yr eiliad - cofiwch, os oes rhywun arall yn eich cartref yn defnyddio鈥檙 cysylltiad rhyngrwyd ar yr un pryd, bydd angen cyflymder cyflymach arnoch neu sicrhau na fydd neb arall yn defnyddio鈥檙 cysylltiad yn ystod y sesiynau.
- Mynediad at borwr gwe Chrome (am ddim i'w lawrlwytho i ddefnyddwyr Mac a Windows).
- Byddwch hefyd angen copi o Microsoft Office 365 鈥 mae gan fyfyrwyr Bangor hawl i gopi am ddim i'w ddefnyddio yn ystod eu hastudiaethau. Ar 么l i鈥檙 myfyrwyr gofrestru ar eu cwrs a derbyn manylion Technoleg Gwybodaeth Bangor, gallant lawrlwytho hwnnw.
Cofiwch nad yw Chromebooks yn cael eu hystyried yn addas i'w defnyddio gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau o bell/gwasgaredig.
Gyrfaoedd
Mae鈥檙 MA Dysgu o Bell mewn Treftadaeth Fyd-eang yn rhoi dealltwriaeth fanwl i鈥檙 myfyrwyr o arferion treftadaeth gan gynnwys methodolegau proffesiynol a chymhwyso polisi.
Ar 么 graddio bydd y myfyrwyr sy鈥檔 meddu ar MA Treftadaeth Fyd-eang yn gallu dilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, rheoli treftadaeth, curadu, cefnogaeth a gweinyddiaeth gymunedol, ac addysg allgymorth.
Mae鈥檙 MA Dysgu o Bell yn gyfle i鈥檙 myfyrwyr ddatblygu sgiliau sy鈥檔 addas i鈥檙 diwydiant treftadaeth ond sydd hefyd yn fuddiol mewn proffesiynau eraill.
Ymhlith y gyrfaoedd nodweddiadol mae:
- Ymchwilydd
- Archifydd
- Rheolwr Treftadaeth
- Rheoli Twristiaeth
- Curadur amgueddfa/oriel
- Rheolwr Arddangosfa
- Arbenigwr cadwraeth
- Swyddog Cymunedol
- Darlithydd
- Addysgu* / Allgymorth
*Efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar ffurf TAR Addysg Uwchradd neu raglen meistr Addysg Gynradd arnoch. Mae rhaglenni o'r fath ar gael yn y Brifysgol yn rhan o鈥檔 dewisiadau Astudiaethau 脭l-radd.