Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Addysg ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Addysg
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau enfawr i chi ar gael ennill lle ym Mhrifysgol Bangor i ddod i astudio gyda ni.
Fy enw i yw Kate Jones ac rwy'n Ddarlithydd mewn Addysg yn yr Ysgol Addysg ym Mangor.
Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod ag i arwain chi drwy eich blwyddyn gyntaf ar y cwrs i ddysgu i fod yn athrawon y dyfodol.
Edrychwn ymlaen eich croesawu chi yma a welwn ni chi yn fuan.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Kate Jones
Roeddwn i'n athrawes am bron i ugain mlynedd ac roeddwn i wrth fy modd â’m swydd. Roeddwn i’n teimlo y gallwn drosglwyddo rhywfaint o fy angerdd a'm brwdfrydedd dros addysgu i athrawon y dyfodol.
Fy hoff beth am yr hyn rydyn ni'n ei addysgu yw'r ymchwil rydyn ni'n ei defnyddio ac yn ei greu i gefnogi ein hathrawon wrth eu hyfforddi am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae dysgu sut i helpu plant i ddysgu yn y ffordd orau bosibl, i deimlo eu bod yn perthyn a'u bod yn bwysig, ymhlith y pethau pwysicaf y gall athro neu athrawes newydd eu dysgu.
Mae pob diwrnod yn wahanol ym myd addysg. Mae cymysgedd o ddarlithoedd, diwrnodau mewn ysgolion rhwydwaith, profiad addysgu a seminarau i gyd yn cyfuno i greu cwrs amrywiol a chyffrous.
Mae gyrfa ym myd addysg yn un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil y gallwch ei chael. Er y gall ymddangos yn heriol ac yn frawychus, mae hynny fel arfer yn wir am y pethau gorau, ac mae'n bendant yn werth chweil bod mewn swydd lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.
Ed Kelly
Mae gen i angerdd dros wyddoniaeth, ond sylweddolais yn ystod fy ngradd y gallai hynny arwain at dreulio llawer o’m hamser ar fy mhen fy hun yn gweithio o flaen sgrin. Fe wnes i sylweddoli hefyd fod gen i angerdd dros bobl, dysgu a rhyngweithio, felly roedd addysgu i'w weld yn cyfuno'r elfennau hynny.
Rydw i wrth fy modd bod fy mhwnc yn caniatáu i mi fod mor greadigol ag y dymunaf. Mae addysgu yn bwnc lle po fwyaf dyfeisgar y gallwch fod, y mwyaf y byddwch yn ymgysylltu â'r myfyrwyr.
I mi, gwyddoniaeth yw sylfeini ein byd. Mae'n bwnc lle rydym yn gyson yn gwthio ffiniau'r hyn rydym yn ei wybod, a chyda'r esboniad cywir, gall unrhyw fyfyriwr ddeall ble rydym ar flaen y gad o ran ein gwybodaeth.
Yr astudiaeth fwyaf diddorol rydw i wedi gweithio arni yw'r project F1 mewn ysgolion, yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd fel rhan o'r cwrs TAR. Mae'n cyfuno rhaglennu, meddalwedd, ffiseg, dylunio a marchnata. Mae mor eang fel na allwn ffitio'r cyfan i mewn!