Nos Fawrth diwethaf, daeth staff, myfyrwyr, a gwesteion gwadd ynghyd i ddathlu cyflawniadau Project Fodlediadau 2025 eleni mewn digwyddiad gwobrwyo arbennig.
Mae myfyrwyr wedi bod wrthi'r semester hwn yn gweithio mewn timau rhyngddisgyblaethol i ddatblygu sianeli podlediadau fideo (fodlediadau) wedi鈥檜 cynllunio i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sy'n ystyried astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig. Roedd y project allgyrsiol hwn yn her i bob t卯m i nodi a chynhyrchu cynnwys a fyddai鈥檔 addysgiadol, yn ddiddorol, ac yn berthnasol i gynulleidfa fyd-eang.
Fel rhan o'r broses, aeth myfyrwyr ati i wneud ymchwil marchnad fyw trwy fideo-gynadledda gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain. Cawsant hyfforddiant hefyd mewn ymchwil marchnad, cynhyrchu fideo, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a defnydd moesegol o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol, a gyflwynwyd gan staff Prifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol gwadd. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Matt Robinson, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor ac Is-lywydd Marchnata Byd-eang yn Autone, a arweiniodd sesiwn ar greu cynnwys diddorol, a Shoned Owen, sef Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Tanya Whitebits, a gynigiodd gyngor gwerthfawr ar optimeiddio ymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Lansiodd y timau o fyfyrwyr eu sianeli fodlediadau鈥檔 swyddogol ar 8 Ebrill ac aethant ati i hyrwyddo eu cynnwys ar gyfer y digwyddiad gwobrwyo terfynol.
Yn y digwyddiad terfynol, cyflwynodd y myfyrwyr eu gwaith i banel o weithwyr proffesiynol marchnata. Diolch yn fawr iawn i aelodau ein rheithgor: Tracey Roberts, Tim McCann, Shoned Owen, a Sion Owen (M-SParc). Wrth ddewis y t卯m buddugol, roedd y beirniaid yn ystyried ap锚l weledol, hunaniaeth y sianel, ac ymgysylltiad y gynulleidfa.
Llongyfarchiadau i enillwyr Project Fodlediadau 2025, Jasmine Cochrane a Suzuka Mori o GLOBTROTTERSBANGOR! Gallwch weld eu sianeli yma: 馃摫 补肠馃抠 .
Fel rhan o'u gwobr, mae Jasmine a Suzuka wedi cael interniaethau ym Mhrifysgol Bangor. Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud am eu profiad o鈥檙 project:
鈥淩oedd ein profiad o wneud Fodlediadau鈥檔 foddhaol iawn. Cawsom gwrdd 芒 phobl newydd a dysgu sgiliau newydd y gallwn eu defnyddio yn ein gyrfaoedd marchnata. Roedd yn bleser gweithio gyda phobl o wahanol wledydd ac arbenigeddau. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein interniaethau y flwyddyn nesaf - rydym wedi gweithio'n galed am y cyfle hwn. Roedd ein mentoriaid yn gyfeillgar, yn gymwynasgar, ac roedd gweithio gyda nhw鈥檔 brofiad anhygoel!鈥
Enillwyr Gwobr Dewis y Gynulleidfa oedd Esthera Amegashie a Miki Nishikawa o Team ME (UKnighted). Cymerwch gip ar eu sianel yma: 馃摳
Rhannodd Esthera a Miki eu barn ar gymryd rhan:
鈥淩oedd gweithio ar y project hwn yn brofiad anhygoel. Cawson y cyfle i gysylltu 芒 phobl anhygoel a dysgu gwersi gwirioneddol amhrisiadwy. Fe wnaethon ennill cyfoeth o wybodaeth a phrofiad a fydd yn sicr o helpu i lywio ein dyfodol.鈥
Mae'r holl sianeli a gr毛wyd gan fyfyrwyr wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gyflwyno cynnwys dilys, dan arweiniad myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bob t卯m am eu gwaith caled, eu creadigrwydd a'u proffesiynoldeb drwy gydol y project.
T卯m Project Fodlediadau 2025 yw Dr Lindsay Jones, Dr Steffan Thomas, Dr Eben Muse, Gwen Glyn, Carol Jones, Dafydd Pattinson, Stephanie Steventon, a Rhian Thomas.