º£½ÇÌìÑÄ

Fy ngwlad:

Podcastio Penrhyn

Dr Kayla Jones

Teitl y prosiect: 'Interpreting Penrhyn: How can podcasts be used to communicate the multi-layered narrative of a Welsh Estate?'

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans, Professor Andrew Edwards a Dr Steffan Thomas.

Cefnogir yr ymchwil gan: Ariannwyd prosiect Kayla gan 

Wedi'u gwblhau: 2018-2023

Darlun pinc, coch a glas o Gastell Penrhyn a mwyngloddiau llechi, yn hyrwyddo'r gyfres bodlediad 'Podlediad Penrhyn'.

Allbwn prosiect doethurol Kayla oedd â€“ ‘arteffact digidol’ sy'n cyfleu treftadaeth aml-haenog ystad y Penrhyn yng Ngwynedd. Roedd yr ymchwil yn rhan o ddiddordeb ehangach Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn hanes y Penrhyn.

Cafodd dyluniad y podlediad ei lywio gan ddadansoddiad testunol o arweinlyfrau Castell Penrhyn a gyhoeddwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers y 1950au. Datgelodd y dadansoddiad hwn diffygion difrifol yn y modd y mae treftadaeth y safle wedi’i dehongli a’i chyflwyno i ymwelwyr yn hanesyddol, gan gynnwys diffyg cynrychiolaeth o gyd-destunau lleol a Chymreig, myfyrdod annigonol ar bwysigrwydd Chwarel y Penrhyn ac ychydig iawn o gyfeiriadau at gysylltiad y safle â chaethwasiaeth drawsiwerydd. Digwyddodd y project hwn mewn cyfnod pan roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wedi cydnabod yr angen i ailasesu ei dehongliad treftadaeth o Gastell Penrhyn, a wnaeth yr ymchwil yn arbennig o amserol. Dewisiwyd y podlediad fel cyfrwng priodol ar gyfer mynd i’r afael â rhai o’r diffygion: arf oedd yn gallu mynegi naratif aml-haenog yr ystâd, gan gynnwys archwilio cyd-destunau hanesyddol craidd a ddigwyddodd y tu hwnt i furiau’r Castell, a chynnwys lleisiau lleol ac academaidd.

Mae  Kayla yn tynnu o ddamcaniaeth ac ymarfer mewn treftadaeth, astudiaethau cyfryngau a thwristiaeth wrth iddynt ryngweithio mewn cymhwysiad digidol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â safle ffisegol: Penrhyn. Mae gwahanol benodau’r podlediad yn cynnwys themâu gwahanol gan gynnwys hanes cynnar, chwareli llechi, caethwasiaeth, a bywyd yng Nghastell Penrhyn ac effaith yr ystâd heddiw gyda chymunedau lleol, a chais Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae'r naratifau'n rhyngweithio â safleoedd treftadaeth lleol eraill yn ogystal ag archifau ac arteffactau sy'n gysylltiedig â'r ystâd sy'n cael sylw trwy gydol y cyfnodau. Mae'r podlediad yn cyd-fynd a'r , sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am bob pennod yn ogystal ag adnoddau cysylltiedig, mewn ffordd sy’n arddangos natur aml-haenog hanes yr ystâd.

Datblygwyd y podlediad o ddamcaniaethau ac arferion cyfryngau digidol a phodledu, gyda'r nod o hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yng ngogledd Cymru. Mae’r prosiect wedi llwyddo i gyfleu dylanwadau byd-eang a lleol Penrhyn trwy fethodoleg y gellid ei hailgymhwyso fel model llwyddiannus yn y sector treftadaeth.