Prif Weinidog yn ymweld â chanolfan ddatgarboneiddio arloesol
Heddiw (Dydd Gwener, 16 Mai) ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, â Thŷ Gwyrddfai, canolfan ddatgarboneiddio arloesol ym Mhenygroes, i weld sut mae'r cyfleuster ar flaen y gad o ran yr agenda ddatgarboneiddio a'r ymdrechion i gyrraedd targedau sero net.
Mae'r hen ffatri cynhyrchion hylendid wedi'i thrawsnewid dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ganolfan ddatgarboneiddio sydd bellach yn bencadlys i gontractwyr mewnol Trwsio Adra, sy'n cyflogi dros 150 o staff.
Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a'i gontractwyr.
Mae Busnes@LlandrilloMenai, ochr masnachol Grŵp Llandrillo Menai yn rheoli podiau hyfforddi ar y safle gan gyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi'u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris.
Mae Prifysgol Bangor yn arwain ar gyfleuster ymchwil a datblygu arloesol, blaengar ar gyfer profi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda ddatgarboneiddio. Mae gan y cyfleuster hwn ddwy siambr sydd wedi'u cynllunio i fod fel tu mewn a thu allan i dŷ ar gyfer profi hinsawdd. Mae'r cyfleuster yma wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Prif Weinidog â chynrychiolwyr o’r sefydliadau partner, yn ogystal â phobl sydd wedi elwa’n uniongyrchol o raglenni hyfforddi a gwella sgiliau yn Nhŷ Gwyrddfai.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae lleihau allyriadau carbon o dai yn ffactor pwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, tra hefyd yn helpu i leihau biliau tanwydd pobl.
“Mae creu swyddi gwyrdd yn un o fy mlaenoriaethau, felly roedd yn wych cyfarfod â rhai o’r bobl sydd wedi elwa o’r hyfforddiant yn Nhŷ Gwyrddfai a gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i bobl ym Mhenygroes a’r cyffiniau.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu’r Prif Weinidog i weld a chlywed yn uniongyrchol gan y partneriaid a phobl sydd wedi elwa’n uniongyrchol o raglenni a gynigir yn Nhŷ Gwyrddfai.
"Bydd datblygiad Tŷ Gwyrddfai yn arwain at weithlu mwy cymwys gyda mwy o sgiliau; a bydd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid."
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn hynod falch o gyfraniad Busnes@LlandrilloMenai i brosiect Tŷ Gwyrddfai a’r bartneriaeth gydag Adra a Phrifysgol Bangor. Mae’r fenter hon yn rhoi gwerth gwirioneddol i’r rhanbarth drwy roi’r sgiliau i fusnesau lleol ddarparu datrysiadau sero-net a gwasanaethau ôl-osod sydd yn y pen draw yn gyrru datgarboneiddio o fewn y sector adeiladu ac adeiladu.”
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn bartner ym mhrosiect Tŷ Gwyrddfai, gan adlewyrchu ein hymroddiad parhaus i arloesi cynaliadwy a chefnogi Cymru ar ei llwybr at ddatgarboneiddio.
“Ers ei lansio, mae’r cyfleuster ymchwil yn cynnig mewnwelediad pwysig i effaith newid hinsawdd ar y sector adeiladu. Ynghyd â’n partneriaid, rydym yn gyrru Gogledd Cymru i flaen y gad yn y trawsnewid gwyrdd, gan lunio dyfodol glanach, iachach a mwy cynaliadwy i’r rhanbarth.”