Ysgrifennwyd yr adroddiad ar gyfer Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis, yr elusen sy'n goruchwylio'r gwaith o reoli safle Tŵr Marcwis, Mae’r safle yn cynnwys y golofn, y ganolfan ymwelwyr a’r caffi. Mae gan y golofn, a adeiladwyd ym 1817, 115 o risiau sy'n arwain at gerflun yr Marcwis. Wedi cyrraedd brig y tŵr gall ymwelwyr weld golygfeydd dros Ynys Môn, Y Fenai, a'r Wyddfa. Fe adeiladwyd y Tŵr yn dilyn brwydr Waterloo lle collodd Iarll Uxbridge, oedd ail mewn gorchymyn i Ddug Wellington, ei goes dde mewn brwydr. Yn ddiweddarach, cafodd Iarll Uxbridge ei wneud yn Farcwis cyntaf Ynys Môn gan y Tywysog Siôr, er mwyn cydnabod ei ddewrder yn y frwydr.
Argymhellodd tîm y prosiect Prifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Michael Butler, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy, y dylid creu llwybr synhwyraidd, rysáit treftadaeth, yn ogystal ag adroddiad marchnata cynhwysfawr. Y gobaith yw y bydd y tri awgrym hyn yn denu mwy o ymwelwyr i'r heneb hanesyddol.

Bydd Ymddiriedolaeth Colofn Môn yn cynnal dathliadau sy'n para wythnos ar safle Tŵr Marcwis i ddathlu Diwrnod Waterloo, gan ddechrau ddydd Sadwrn, 14 Mehefin 2025. Yn ystod y digwyddiad, bydd ymwelwyr yn gallu blasu'r rysáit treftadaeth, yfed cwrw o'r enw Waterloo Ale, a gwylio grŵp sy’n gwisgo mewn gwisgoedd militaraidd Yr Anglesey Hussars yn ail greu hanes drwy wisgo mewn lifrai byddin y cyfnod Napoleon. Caiff Diwrnod Waterloo ei gofio’n flynyddol ym Mehefin i gofio dyddiad Brwydr Waterloo, brwydr rhwng byddin Ffrengig Napoleon a byddin Brydeinig y Dug o Wellington, ddigwyddodd yn1815. Bydd y rysáit treftadaeth, sef pwdin plwm - pwdin sy'n gysylltiedig â hanes y golofn, yn rhan o'r dathliadau Waterloo. Yn ôl yr hanes yn 1794, penderfynodd y Marcwis brofi yr un bwyd â'i filwyr am wythnos, er mwyn profi beth oedd y bobl islaw iddo yn bwyta.
Bydd y llwybr synhwyraidd, sy’n lwybr gylchol - yn dechrau ac yn gorffen ger safle’r golofn - hefyd yn ran o'r gwaith adfer coetir sydd ar fin dechrau yn y goedwig wrth y golofn. Dyma daith hawdd a fyddai’n cymryd tua awr i’w cherdded. Yn ystod y daith gerdded, bydd twristiaid yn gallu ymweld â safleoedd hanesyddol, gan gynnwys cerflun yr Arglwydd Nelson a Phwll Fanogl, lle paentiodd yr artist enwog Kyffin Williams rai o'i baentiadau tirlun enwocaf.
Yn olaf, mae'r adroddiad marchnata yn cynnwys help i farchnata'r llwybr synhwyraidd.
Dywedodd Michael Butler, Cyfarwyddwr Rhanbarth, Canolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy yr Ysgol Fusnes, sydd hefyd yn ymddiriedolwr ag Ymddiriedolaeth Colofn Ynys Môn:
“Mae’n fraint cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis, ei staff a’i gwirfoddolwyr. Mae Tŵr Marcwis yn safle treftadaeth Gradd II, ac yn rhan bwysig o'r gymuned leol ac yn haeddu bod yn adnabyddus ac yn brysur gydag ymwelwyr. Roedd y tîm yn awyddus i ddefnyddio dull dychmygus yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei photensial llawn ac roedd hynny’n golygu bod rhaid cael tîm rhyngddisgyblaethol.”
Dywedodd Peter Davies OBE, un o Ymddiriedolwyr Colofn Tŵr Marcwis: “Mae’r ymddiriedolaeth yn diolch i Brifysgol Bangor am ei hadroddiad ac yn cytuno’n llwyr bod Ysgol Busnes Prifysgol Bangor wedi cynnig syniadau newydd, sy’n seiliedig ar ymchwil, i sicrhau profiad cyfoethocach i ymwelwyr â Thŵr Marcwis, Ynys Môn. Bydd yr ymddiriedolaeth yn parhau i feithrin cysylltiadau gwaith cydweithredol gydag Ysgol Busnes Bangor wrth i fanteision eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth hwyluso nid yn unig cyfleoedd datblygu busnes i'r ymddiriedolaeth ond hefyd cyfleoedd dysgu uniongyrchol i'w staff a'i myfyrwyr.”
Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu drwy gefnogaeth y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi sydd wedi’i gefnogi gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Meddai Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi ym Mhrifysgol Bangor:
“Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesi i Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis yn ddiweddar, gan alluogi’r ymddiriedolwyr i gydweithio ag academyddion o Ysgol Busnes Bangor ar strategaethau i wella ymgysylltiad ymwelwyr ar y safle. Mae adroddiad cynhwysfawr yr Athro Michael Butler yn cynnig syniadau rhagorol y gall yr ymddiriedolaeth eu rhoi ar waith yn fuan, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y newidiadau sydd ar ddod a'r profiadau cyfoethog a fydd yn cael eu cynnig ar y safle hanesyddol hwn yn Llanfair Pwllgwyngyll.
Roedd tri math o daleb ar gael, a gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau'r brifysgol, defnyddio offer arbenigol a mynediad at wybodaeth: Canolig: Hyd at £5,000 am bump i wyth diwrnod o gefnogaeth; Mawr: Hyd at £10,000 am 10 i 15 diwrnod o gefnogaeth, a’r daleb Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 ar gyfer interniaeth i fyfyriwr graddedig am 2 wythnos.