Mae ap ARFer wedi’i seilio ar wyddor a thystiolaeth newid ymddygiad ac yn ffrwyth prosiect sydd wedi ei gynnal dros gyfnod o chwe blynedd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg y Brifysgol. Ei brif bwrpas yw darparu fframwaith hawdd a hwyliog i grwpiau o staff ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Mae’r ap yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel ieithyddol – o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl. Mae wedi bod yn boblogaidd gyda staff gweithleoedd sydd wedi’i fabwysiadu'n gynnar, gyda 79% o’r gweithwyr sydd wedi defnyddio’r ap yn nodi ei fod wedi cael effaith sylweddol ar eu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithleoedd.
Yn eu plith, Mari Gwenllian Roberts, sy’n defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd yn ei swydd ac a nododd fod yr ap wedi rhoi rhagor o gyfleoedd iddi hi a’i chydweithwyr ddefnyddio’r Gymraeg:
‘Mae ’na rai aelodau o’r tîm doeddwn i erioed wedi siarad Cymraeg efo nhw cyn defnyddio ARFer. Erbyn hyn, rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau Cymraeg a hynny’n sicr o ganlyniad i’r elfennau newid ymddygiad y mae’r ap wedi eu cyflwyno i ni’.
Mae Marcel Clusa Ferrand, sy’n wreiddiol o Gatalwnia, hefyd wedi gweld budd yr ap yn cael ei ddefnyddio yn ei weithle:
‘Dw i wedi dysgu Cymraeg ac mae’r ap wedi bod yn help i ddefnyddio Cymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd nag oeddwn i’n ei wneud cynt. Mae’n sicr wedi helpu gyda fy hyder i ddefnyddio Cymraeg’.
Mae rhaglen ARFer yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a derbyniwyd cyllid drwy gronfa ARFOR i ddatblygu’r ap.