Ni all tyfu olew palmwydd ar gyfer biodanwyddau arbed ein hinsawdd
Dywed gwyddonwyr y gall tyfu olew palmwydd yn y trofannau i wneud biodanwyddau âgwyrddâ gyflymu effeithiau newid hinsawdd.
Darganfu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor bod creu planhigfeydd olew palmwydd yn rhyddhau ffynonellau cynhanesyddol o garbon deuocsid yn Ă´l iâr atmosffer.
Maeâr darganfyddiadauân bwrw amheuaeth ar obeithion y gallai biodanwyddau a dyfwyd yn y trofannau helpu i leihau gollyngiadau nwyon tš gwydr.
Gan weithio fel rhan o dĂŽm rhyngwladol, buâr gwyddonwyr o Ogledd Cymruân edrych ar y ffordd y mae torri coed yng nghorsydd mawn Malaysia, i wneud lle i goed olew palmwydd, yn rhyddhau carbon sydd wedi cael ei gau i mewn yn y ddaear ers miloedd o flynyddoedd.
Ofnir y bydd microbauân ymosod ar y carbon hwn gan gynhyrchuâr nwy tš gwydr, carbon deuocsid. Dywed y gwyddonwyr o Fangor bod y carbon hynafol wediâi gadwân ddwfn yn y pridd, ond bod effeithiau torri a chlirio coed yn ei ryddhau i sianelau dĹľr cyfagos.
Wrth ddisgrifio eu gwaith, syân ymddangos yn âNatureâ, meddaiâr Athro Chris Freeman: âFe wnaethom sylwi gyntaf yn Ă´l yn 1995 bod y ffosydd a oedd yn sychu darnau o dir a oedd wedi eu troiân blanhigfeydd olew palmwydd yn cynnwys lefelau anarferol uchel o garbon hydawdd, ond dim ond pan gymerodd fy ymchwilydd, Dr Tim Jones, samplau i fesur oed y carbon hwnnw y gwnaethom sylweddoli ein bod wedi dod ar draws rhywbeth pwysig iawn.â Ychwanegodd Dr Jones, âFe wnaethom ryfeddu wrth ddarganfod bod ein samplau oâr planhigfeydd olew palmwydd yn cynnwys y carbon organig hydawdd hynaf o bridd a gofnodwyd erioed.â
Mesurodd ymchwilwyr Prifysgol Bangor y dĹľr a oedd yn gollwng o sianelau mewn planhigfeydd olew palmwydd ar benrhyn Malaysia, a oedd yn goedwig cors fawndir yn wreiddiol. Mae oddeutu 28,000 km2 o blanhigfeydd diwydiannol ym mhenrhyn Malaysia, Sumatra a Borneo gyda mwy ar y gweill, gan eu gwneud yn gyfrannwr o bwys at ddatgoedwigo corsydd mawn yn y rhanbarth. âMae ein canlyniadauân ein hatgoffa unwaith eto pan fyddwn yn tarfu ar gorsydd mawn aâu troiân blanhigfeydd biodanwydd diwydiannol bod perygl i ni ychwanegu at yr union broblem rydym yn ceisio ei datrys,â meddaiâr Athro Freeman.
Ychwanegodd yr Athro Freeman: Rydym yn gwybod ers peth amser fod planhigfeydd olew palmwydd yn Ne Ddwyrain Asia yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth, yn cynnwys cynefin orang-utans, ac y gall y sychu ryddhau symiau enfawr o garbon deuocsid yn ystod y tanau a welwyd yno yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ond mae darganfod ffynhonnell newydd âguddâ o broblemau yn y dyfroedd a dynnir oâr mawndiroedd hyn wrth eu sychu yn ein hatgoffa oâr angen i ddiogeluâr ecosystemau bregus hyn.â
Gymaint ywâr angen i ddysgu mwy am swyddogaeth mawndiroedd trofannol yn ein hinsawdd fel bod yr Athro Freeman yn sefydlu gradd uwch unigryw ar diroedd gwlybion.
Gobaith y gwyddonydd, syân adnabyddus yn fyd-eang yn ei faes, yw y bydd gradd MSc newydd Prifysgol Bangor mewn Gwyddor a Chadwraeth Tiroedd Gwlybion yn sicrhau y bydd ymchwil yn parhau ar y ffyrdd gorau i amddiffyn a rheoliâr cynefinoedd arbennig hyn.
Cyhoeddwyd â yn Nature ar 31 Ionawr 2013. Roedd y TĂŽm ymchwil yn cynnwys Dr Sam Moore a Dr Vincent Gauci, The Open University; Yr Athro Chris Evans, Canolfan yr Amgylchedd Cymru; Athro Susan Page, University of Leicester; Dr Mark Garnett, NERC Radiocarbon Facility; Dr Tim Jones a Professor Chris Freeman, Prifysgol Bangor; Dr Aljosha Hooijer, Deltares; Dr Andrew Wiltshire, Met Office Hadley Centre, a Mr Suwido Limin, Prifysgol Plangka Raya.
Maeâr gwaith yn denu diddordeb mewn gwledydd mor bell ââr ac .
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013