System rybuddio newydd i ddarganfod creaduriaid estron ym moroedd Cymru
Fe allai system rybuddio newydd leihauâr difrod a wneir gan greaduriaid estron neu anfrodorol i ddiwydiannau morol Cymreig ac ar fywyd gwyllt brodorol.
Bydd canfod cynnar hefyd yn golygu y bydd ymdrechion i ddifa rhywogaethau ymledol yn haws gan na fyddai cymaint ohonynt ac na fyddent mor wasgaredig.
Datblygir y system rhybudd cynnar yn rhan o brosiect 18 mis dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Prifysgol Bangor.
Mae rhywogaethau anfrodorol yn greaduriaid sydd wediâu cyflwyno iân dyfroedd o du allan iâw cynefinoedd naturiol.
Gwneir hyn yn bennaf trwy ddamwain trwy weithgareddau megis llongiadu, hwylio hamdden ac amaethu rhywogaethau a phlanhigion morol.
Nid ywâr rhan fwyaf oâr rhywogaethau syân cael eu cyflwyno i ddyfroedd Cymruân fygythiol nac yn niweidiol.
Fodd bynnag, gall rhai rhywogaethau megis ewinedd mochyn, cranc mynegog Tsieineaidd aâr chwistrell fĂ´r garped drechu rhywogaethau brodorol gan ddwyn eu bwyd a difrodiâr cynefinoedd maent yn byw ynddynt.
Yn ei dro, gall hyn leihau poblogaeth rhywogaethau megis cregyn gleision, wystrys a chrancod gan ddifrodi diwydiannau pysgota lleol.
Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ac arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gydaâr diwydiannau morol, yn gyntaf yng ngogledd Cymru. Mae ffermwyr wystrys, gweithredwyr marinas a physgotwyr cimychiaid a chrancod am ganiatĂĄu iâr arbenigwyr osod a chasglu gwybodaeth o âbaneli aneddiadauâ yn y mor yn y safleoedd ble maent yn gweithio.
Dywedodd Gabrielle Wyn o Cyfoeth Naturiol Cymru:
âY cynharaf y byddwn yn adnabod unrhyw rywogaeth ymledol â y gorau yw ein siawns o daclo neu ddifaâr rhywogaeth yn gyfan gwbl yn llwyddiannus.
âBydd yn helpu iân rhoi ni ar y blaen a bydd yn lleihauâr difrod amgylcheddol ac economaidd a achosir gan y rhywogaethau hyn.
âMae gweithio gydaâr diwydiannau pysgota a hamdden yn rhan bwysig oâr prosiect hwn. Maent yn y sefyllfa orau o ran adnabod y rhywogaethau hyn yn gynnar a bydd cofnodiâu canfyddiadau hefyd yn fuddiol iâw busnesau yn yr hir dymorâ.
Meddai Dr Katherine Griffith, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor:
"Cydnabyddir yn eang erbyn hyn fod rhywogaethau anfrodorol ymwthiol yn gryn fygythiad i fioamrywiaeth morol a thrwy hynny i weithrediad ecosystemau arfordirol a morol. Mae Dr Stuart Jenkins a minnau wedi gweithio ers talwm yn y maes ymchwil hwn; bwriad ein project cyfredol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yw datblygu system gadarn i ganfod rhywogaethau anfrodorol morol cyn iddynt ymsefydlu'n gadarn trwy gydweithio'n agos â diwydiannau morol Cymru.
âByddai canfod rhywogaethau felly yn gynnar yn agor ystod ehangach o ddewisiadau rheoli, a ddylai liniaru'r costau economaidd ac amgylcheddol a gysylltir â rhywogaethau ymwthiol o'r fath. Ein gobaith yw trwy godi ymwybyddiaeth ac annog canfod rhywogaethau anfrodorol ymwthiol morol yn gynnar y gallwn gynyddu gallu'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ymateb yn gyflym ac yn llwyddiannus i achosion newydd o'r fath.â
Disgwylir iâr prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2015.
Maeâr system rhybudd cynnar arfordirol hon yn gysylltiedig â phrosiect ehangach trwyâr DU ac Iwerddon sydd hefyd yn datblygu system alltraeth trwy ddefnyddio paneli aneddiadau ar fwiau yn y mĂ´r.
Bwriad y rhwydwaith yw canfod rhywogaethau anfrodorol ymledol morol cyn iddynt ddod yn broblem i fioamrywiaeth a diwydiant. Maeân cynnwys yr ardaloedd ârisg uchafâ i rywogaethau anfrodorol gyrraedd a lledaenu yn y DU ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2014