º£½ÇÌìÑÄ

Fy ngwlad:

Aelodaeth Myfyrwyr

AELODAETH O'R GAMPFA I FYFYRWYR SY'N BYW MEWN NEUADDAU

Aelodaeth am ddim o'r Gampfa i Breswylwyr

Os ydych yn fyfyriwr Prifysgol Bangor sy'n byw yn Neuaddau'r Brifysgol, byddwch yn derbyn aelodaeth am ddim o'r gampfa pan fyddwch yn cychwyn yma. I roi hyn ar waith, cwblhewch y Rhaglen Hyfforddiant Ymsefydlu ar-lein. 24 awr ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd eich Cerdyn Myfyriwr yn rhoi mynediad i chi i Ganolfan Brailsford. Bydd preswylwyr sy'n byw ym mhentref myfyrwyr Y Santes Fair hefyd yn cael mynediad i'r gampfa ar y safle hwnnw. Byddwch angen eich Cerdyn Myfyriwr coch i gael mynediad i Ganolfan Brailsford a champfa'r Santes Fair.

group exercise class

Uwchraddio eich Aelodaeth

Mae gennych hefyd yr opsiwn o uwchraddio eich aelodaeth am ddim i gynnwys ein amrywiaeth o ddosbarthiadau. Am £65, gallwch ymuno â phob dosbarth yng Nghanolfan Brailsford. I fanteisio ar y cynnig hwn, ffoniwch ni ar 01248 382 571.

Mewngofnodi i Archebu Lle yn ein Dosbarthiadau

I archebu lle yn ein dosbarthiadau a'n gweithgareddau, bydd angen i chi fewngofnodi i'r safle archebu. Byddwch angen eich manylion alffaniwmerig personol Prifysgol Bangor e.e.  Bra24ed i fewngofnodi.

AELODAETH O'R GAMPFA I FYFYRWYR SY'N BYW MEWN LLETY PREIFAT

Opsiynau Aelodaeth

Prynu Eich Aelodaeth

Gallwch brynu eich Aelodaeth:

  • trwy ddod i Dderbynfa Canolfan Brailsford neu
  • ein ffonio ar 01248 382 571 neu
  • arlein - bydd angen mewngofnodi

Peidiwch ag anghofio mynd i'r llyfrgell i gasglu eich Cerdyn Myfyriwr coch, fydd y cerdyn yn rhoi mynediad i chi drwy'r giatiau yng Nghanolfan Brailsfod. 

*Does dim angen i chi greu proffil campfa na chael cerdyn Actif.

Prynu Eich Aelodaeth Arlein

Mae’n bwysig dilyn y camau i sicrhau eich bod wedi ymaelodi yn iawn fel eich bod yn gallu defnyddio’r gampfa cyn gynted â phosib.

Ewch i'n gwefan taliadau, lle bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Prifysgol Bangor e.e. Bra24ed. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd dewiswch un o’r opsiynau aelodaeth. Ar ol talu, bydd angen cwblhau ein Rhaglen Hyfforddiant Ymsefydlu gorfodol.

*Does dim angen i chi greu proffil campfa na chael cherdyn Actif.

 

Myfyriwr yn y gampfa yn cael ei hyfforddi i ddefnyddio un o'r peiriannau

Diddordeb mewn Hyfforddiant Personol?